NI YW CYNHYRCHIADAU NIMBLE
CYNNWYS AML-FFORMAT
CYFLWYNO TRAWS-BLATFORM
YMGYSYLLTU CYNULLEIDFAOEDD
Digwyddiadau Cenedlaethol a Rhyngwladol a chyrhaeddiad cynulleidfa
O GRASSROOTS I ELÎT
Adrodd straeon ar bob lefel o gymunedau lleol, i dîmau cenedlaethol, ar raddfa fyd-eang
YSBRYDOLEDIG A GWREIDDIOL
Diddanol, addysgiadol, ysbrydoledig a gwreiddiol
AMRYWIOL A CHYNHWYSOL
Profiad arbenigol o gynnwys prif ffrwd a chynnwys penodol, gan weithio gyda thalent gwrywaidd a benywaidd, anabl a heb fod yn anabl - ar y sgrin ac oddi ar y sgrin
Cynyrchiadau
CREDYDAU BYW
CREDYDAU DI-SGRIPT
CREDYDAU ADLONIANT
CREDYDAU DOGFEN
CREDYDAU BYW
Yr FA Disability Cup
Twrnamaint Pêl-droed Byw ar gyfer TNT Sports a Channel 4
Mae’r FA Disability Cup yn dwrnamaint pêl-droed Pan-Anabledd blaenllaw sy'n cynnwys chwe gêm dros ddau ddiwrnod, sy’n cael ei gynnal yng nghartref eiconig pêl-droed Lloegr, St George’s Park.
Dyma lle mae’r timau gorau o bob rhan o Loegr yn brwydro ym mhêl-droed dall, rhannol ddall, amputee, Parlys yr Ymennydd, Byddar, Powerchair a Phêl-droed.
Wedi dechrau yn nhymor 2015/2016, 2024 fydd pedwerydd darllediad byw y twrnamaint.
Mae arloesi technoleg a golygyddol wedi bod reit wrth sail y darllediad, gyda nifer o wasanaethau a llwyfannau mynediad yn gwneud y twrnamaint yn agored ac yn hygyrch i bawb.
Disgrifiad sain gwell byw, isdeitlau byw, BSL byw ar draws dau ddiwrnod llawn o ddarllediad llinol, gyda chyd-ddarlledu ar lwyfannau Cymdeithasol a Digidol. Partneriaeth rhaglen uchafbwyntiau FTA gyda’r darlledwr Paralympaidd Prydeinig Channel 4.
Premier Padel // Red Bull
Partner cynhyrchu ar gyfer Red Bull Media House
Nimble yw partner cynhyrchu Red Bull ar gyfer Premier Padel World Tour 2024, gan greu cynnwys ar gyfer y bartneriaeth OTT unigryw rhwng Red Bull a Premier Padel. Ar leoliad yn Qatar, Mecsico, yr Eidal, Ffrainc a Barcelona yn cefnogi Media House gyda darllediadau o'r 4 Majors a rownd derfynol y byd. Hefyd buom yn cynhyrchu llu o gynnwys newydd o ffilmiau athletwyr i gynnwys esbonio, gan gyflwyno cynulleidfa eang newydd i Daith Padel.
World Skateboarding Tour
World Skateboarding Tour yw'r gyfres gymhwyso swyddogol ar gyfer Gemau Olympaidd Paris 2024.
Mae'r daith 9 stop yn cynnwys Sgrialu Parc a Stryd mewn 5 gwlad - yr Ariannin, Japan, Emiradau Arabaidd Unedig, yr Eidal a'r Swistir.
Mae sglefrwyr gorau'r byd yn cystadlu i gasglu cymaint o bwyntiau â phosib i wneud y toriad caled o 22 sglefrwyr i Baris.
Mae Nimble yn cynhyrchu darllediadau byw o rowndiau cynderfynol a therfynol y byd a rhaglenni uchafbwyntiau 26 munud ar gyfer pob cyrchfan. Ymhlith y derbynwyr byd-eang mae TV Globo / Brasil, Claro TV / Canolbarth a De America, Nippon TV / Japan, CBS / Canada ac allfeydd digidol fel The Olympic Channel a NBC YouTube.
Red Bull Wings for Life World Run
Darllediad By war gyfer Red Bull Netherlands
Dathlodd y Wings for Life World Run ei 11eg rhifyn ym mis Mai 2024 gyda 265,818 o gyfranogwyr, gan ailgadarnhau ei statws fel y digwyddiad rhedeg mwyaf yn y byd.
Cynhyrchodd Nimble ddarllediad byw rhediad yn Breda mewn cydweithrediad ag EMG Netherlands. O Bencadlys EMG Hilversum, bu Nimble yn gweithio gyda dau Camera Moto, drôn byw, ystod o gamerâu POV a thracwyr i gyfrannu at gynhyrchiad World Feed ym Munich lle derbyniwyd dwsinau o gynyrchiadau app-run a flagship-run a'u rhoi at ei gilydd i ddarllediad byd-eang. Roedd yr Iseldiroedd yn rhan o’r sioe tan y diwedd un wrth i Valentin Poncelet o Wlad Belg gyrraedd y 3ydd safle yn fyd-eang gyda phellter o 66.6 km.
Red Bull BC Rownd Derfynol Un Byd Paris
Darllediad Byw ar gyfer Red Bull a Channel 4
Gyda Breakdancing yn ymddangos am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd Paris 2024, parhaodd Nimble â'i enw da byd-eang o fewn breakdancing gyda dau gynhyrchiad byw mewn partneriaeth â Red Bull UK a Channel 4.
Trawsnewidiwyd stadiwm tenis mwyaf blaenllaw Ffrainc, Roland Garros, i fod yn arena ar gyfer cystadleuaeth Breaking un yn erbyn un fwyaf y byd lle cynhyrchodd Nimble sioe fyw bwrpasol yn y DU gyda’r cyflwynwyr Becca Dudley (MTV, ITV) a B-Girl Roxy. Cafodd y sioe bedair awr ei darlledu ar yr un pryd ar lwyfannau digidol Channel 4 a Red Bull YouTube.
Cyn Rowndiau Terfynol y Byd ym Mharis, cynhyrchodd Nimble gynhyrchiad byw Cypher Red Bull BC One UK yn fyw o Lundain, a oedd yn cynnwys talent cyflwyno fel Ellie Prohan (DJ, Cyflwynydd Kiss) a chynhyrchiad VT ar gyfer sioe 3 awr gyda Red Bull UK a Channel 4.
Red Bull Dance Your Style World Finals
Live Event Production for Red Bull / TikTok
Red Bull Dance Your Style is an international mixed-style dance competition. The crowd decides who wins by voting for their favourite dancers.
In 2022, 60 champions from two event seasons and over 30 countries competed for eight spots to face the invited wildcards in the Red Bull Dance Your Style World Final in Johannesburg, South Africa. Nimble co-produced the live coverage for a state of the art 9:16 TikTok integration as the main outlet and a 16:9 feed for multiple watch parties around the globe.
BT Sport Action Woman Awards
Live award show for BT Sport, simulcast for linear and socials
Every year BT Sport celebrate the achievements of brilliant and inspiring female athletes in the Action Woman Awards in a one hour live broadcast on BT Sport.
Red Bull SoundClash
Darllediad Byw ar gyfer Red Bull
Brwydr gerddorol fyw rhwng dau artist yw Red Bull SoundClash. Mae pob cystadleuydd wedi'i osod ar ddau lwyfan gwrthgyferbyniol, ar draws pedair rownd o gystadlu cerddorol, gyda’r dorf yn penderfynu ar yr enillydd.
Cafodd Nimble y dasg gan Red Bull Netherlands i gynhyrchu sioe fyw 2 awr a gafodd ei gyflwyno gan y rapiwr a’r podledwr Hef a’i sioe “Rookworst”. Cynhyrchiad 10-camera yn cynnwys Craen Movi Bird 52 troedfedd, gyda chymysgedd sain byw o safon fyd-eang ar gyfer y ddau act ar gyfer y label cerddoriaeth Top Notch a Red Bull.
Pencampwriaeth WDSF Ewrop 2022
Yn fyw i’r BBC a’r Sianel Olympaidd
Yn fyw o Fanceinion, mae dawnswyr gorau Ewrop yn cystadlu ym Mhencampwriaeth WDSF Ewrop 2022. Cynhyrchodd Nimble y digwyddiad byw ar gyfer Chwaraeon BBC, iPlayer a’r Sianel Olympaidd, mae’r rhaglen yn cynnwys dawnswyr ar y ffordd i Baris 2024.
Zwift Academy
Digwyddiad Byw Byd-eang
Mae Zwift Academy yn cynnig gwobr unigryw lle mae degau o filoedd o feicwyr rhithiol o bob cwr o'r byd yn cystadlu i ennill contractau proffesiynol gydag Alpecin-Fenix a CANYON / SRAM. Gan weithio mewn partneriaeth â Zwift, fe grewodd Nimble ddigwyddiad byw byd-eang o 10 gwlad ledled De America, Awstralasia ac Ewrop, wedi'i gynnal yn ganolog o stiwdio rithiol yn y DU. Dyma gynhyrchiad hynod gymhleth ac arloesol lle gynhyrchodd Nimble lu o gynnwys arbennig ar gyfer llwyfannau cymdeithasol a digidol yn ogystal â'r rownd derfynol byw.
Red Bull BC One (Holland cypher) for Red Bull Netherlands
Live Event Production
Every year, thousands of breakers worldwide compete for a place in the BC One World Final. During the Red Bull BC One Holland Cypher, 16 B-Boys and 8 B-Girls compete in Rotterdam to get the last ticket for the Red Bull BC One World Final in Poland.
Simple Session 20
Cyd-ddarllediad Byw ar gyfer Red Bull TV & Amazon Yr Almaen
Yn dathlu 20 mlynedd ers digwyddiad sglefr-fyrddio a BMX mwyaf mawreddog y byd. Cynhyrchodd Nimble ddarllediad byw allanol cymhleth o Tallin, Estonia, cyd-ddarlledid ar lwyfannau teledu Red Bull mewn ieithoedd Saesneg a Rwsieg. Cynhyrchwyd ar y cyd â Red Bull Media House a Simple Session. Mae'r digwyddiad yn cynnwys athletwyr chwaraeon gweithredu gorau'r byd am 2 ddiwrnod o gystadleuaeth ddwys.
RED BULL ROLLERCOASTER
CYNHYRCHIAD DIGWYDDIAD BYW I RED BULL TV
Mae Red Bull Rollercoaster yn gystadleuaeth Sglefrfyrddio rhyngwladol unigryw a gynhelir yn yr ŵyl Action Sport mawr Munich Mash, yr Almaen. Mae athletwyr gorau'r byd yn cystadlu ar gwrs 300 metr, lawr lethr gyda rhwystrau o ddisgyblaethau stryd, fert, parc a phowlen. Cydweithiodd Nimble â Red Bull Media House ar yr ochr olygyddol a chyflenwi staff i gynhyrchu sioeau byw 3 x 2 awr, a ddarlledwyd ar y cyd â Teledu Red Bull, Facebook a You Tube gyda'r cyflwynwyr Ed Leigh, Chris Pastras, Corey Bohan, Nora Vasconcellos, Tina Dixon a Dave O'Caoimh.
Red Bull Paris Conquest
Live Event Production for Red Bull TV & TikTok
Fresh off the back of Tokyo 2020, some of the world’s best skateboarders competed in a brand new competition format at the iconic setting of the Eiffel Tower in Paris. A bespoke course constructed of renowned Paris skateboard locations, athletes from around the world battled in a knockout format in front of a crowd of thousands.
CREDYDAU DOGFEN
Geraint Thomas: The Road will Decide
1x60 ar gyfer BBC One Wales & BBC Two Network
Ffilm ddogfen sy'n cynnwys mynediad unigryw i fywyd y pencampwr a’r Cymro, Geraint Thomas, yn ras dygnwch anoddaf y blaned - y Tour de France. Mae’r ffilm o safbwynt personol Geraint ac yn dangos hanes y daith fwyaf mewn 30 mlynedd, mewn modd gonest, llawn hiwmor. Wedi'i gomisiynu gan BBC Cymru a BBC Two, cydweithiodd Nimble â Thîm Ineos a Geraint Thomas i ddod â'r graean a'r penderfyniad sydd mor ofynnol i gystadlu yn ras enwocaf beicio’r byd. Cyfarwyddwyd gan Stewart Sugg. Uwch gynhyrchydd, Dylan Wyn Davies.
Sam Warburton: Full Contact
Rhaglen ddogfen 1 x 60 munud ar gyfer y BBC
Dyma bortread ddwys o Gapten eiconig Cymru a’r Llewod, Sam Warburton. Cipolwg unigryw ydyw gyda mynediad digynsail i fywyd cartref, gan ddatgelu beth sy’n gwneud rhyfelwr Rygbi go iawn. Yn cynnwys datgeliadau gan Brif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland, y Gwyddelwr eiconig, Brian O’Driscoll, cyn-hyfforddwr Cwpan Rygbi'r Byd, Syr Clive Woodward, a seren gyfredol Cymru, George North. Cyfarwyddwyd gan Stewart Sugg.
Shane Williams: Rugby, Concussion & Me
Rhaglen ddogfen 1 x 60 munud ar gyfer y BBC
Ymunodd Nimble gyda un o wynebau mwyaf adnabyddus rygbu Cymru ag un o’r Llewod Prydeinig, Shane Williams wrth iddo gychwyn ar daith i ddeall sut mae byd rygbi, yn gweithio i leihau cyf-ergydion yn y gêm fodern i wneud y gamp yn fwy diogel i genedlaethau'r dyfodol. Wedi'i ysbrydoli gan ei blant wrth iddo ofyn sut i wneud ei gamp yn fwy diogel i'w cenhedlaeth nhw ac i’r dyfodol, gwelwyd Shane yn siarad â chwaraewyr â fu, chwaraewyr presennol ac yn cwrdd ag arbenigwyr meddygol proffesiynol, y cyrff llywodraethu gan gynnwys Rygbi'r Byd a'r rhai sy'n ymwneud ar lefel grassroots y gamp yn y DU a thramor. Cyfarwyddwyd gan Stewart Sugg. Uwch Gynhyrchydd, Dylan Wyn Davies.
Carwyn Williams: Unbreakable for BBC
Carwyn Williams o Abertawe oedd yn flaenllaw yn y byd syrffio Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd yn yr 80au. O’r Mwmbwls, trwy ddawn a grym personoliaeth fe syrffiodd ei yn lleoliadau mwyaf peryglus y byd gan gynnwys tonnau anferth Hawaii a chystadlu yn erbyn goreuon Awstralia. Mae’r portread hwn yn olrhain esgyniad Carwyn i frig y gamp. Stori am antur arloesol, perygl, trasiedi, adsefydlu ac ailddyfeisio.
Steve Robinson: Cinderella Man
Documentary for BBC
In 1993 a boxer and part-time warehouse worker from a Cardiff Debenhams store was given the chance of a lifetime – to fight for the world featherweight title with just 48 hours’ notice after the reigning champ pulled out. He had no preparation and no hope of success. Yet, when the bell rang at the end of the final round, Wales had a world champion.
John Dawes: Rugby Revolutionary
Documentary for BBC
An emotive portrait of Welsh rugby icon John Dawes.
The man who revolutionised the game as both player and coach who led Wales to multiple Grand Slams, inspired The Lions to their only ever tour victory on New Zealand soil and was also at the centre of the ‘Greatest Try of All Time’ with the Barbarians. Now for the first time ever, John’s Dawes’ son and grandsons along with a star-studded host of rugby legends
CREDYDAU DI-SGRIPT
The New Signing
6 Part Series For EE & BT Sport
The New Signing yw menter ddiweddaraf EE, fel rhan o’i phartneriaethau hirdymor gyda phob un o’r pedair Cymdeithas Bêl-droed o’r DU er mwyn cefnogi twf pêl-droed anabledd ar y cae ac oddi arno, gan sicrhau bod y gêm mor gynhwysol â phosibl i gefnogwyr a gwylwyr. Creodd a chynhyrchodd Nimble gyda’i partneriaid Cake (Havas) gyfres 6 rhan yn olrhain taith dau sylwebydd Iaith Arwyddo newydd, Damaris Cooke a Rolf Choutan wrth iddynt ddod yn dalent pêl-droed BSL cyntaf erioed Prydain yng Nghynghrair y Pencampwyr, yr Uwch Gynghrair a Chwpan Anabledd yr FA.
The New Signing
Hyrwyddo a lawnsio cynnwys ar gyfer EE, BT Sport a’r Undeb Pêl-Droed
Mae The New Signing gydag EE a BT Sport yn chwilio am dalent unigryw er mwyn hyfforddi a lawnsio gyrfaoedd sylwebwyr pêl-droed British Sign Language newydd. Cynhyrchodd Nimble hysbyseb heb sain mewn partneriaeth â Cake (Havas) a BT Sport a oedd yn cynnwys chwaraewyr nodweddiadol tîm pêl-droed Lloegr a thîm byddar Lloegr. Bydd cyfres 6 rhan yn cael ei ddarlledu yn 2023.
Para Football Adventures
5 Part Series for BT and the Home Nation Football Associations
Alex Brooker and Chelcee Grimes hatch a plan to shine a light on disability football and travel to each of the home nations to introduce TV, Social and Digital audiences to Amputee Football in Scotland, Powerchair in Northern Ireland, Cerebral Palsy Football in England and the Welsh Deaf Futsal team. Produced in partnership with BT and Cake (Havas).
Women’s Football World with Coca Cola
6 x 30 Channel 4
Ffurf fer ar gyfer All4 Social & Digidol
Y cyntaf o’I fath yn y byd, mae’r raglen yma gyda Clare Balding a phencampwr y byd pêl-droed Freestyle, Liv Cooke, yn rhoi mewnwelediad unigryw i bêl-droed menywod ar raddfa byd-eang. Mae Women’s Football World with Coca Cola yn rhoi cipolwg prin i wylwyr y tu ôl i’r llen yn rhai o’r clybiau pêl-droed mwyaf y byd gan gynnwys Manchester City, Juventus ac Arsenal. Mae’r raglen hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau o Gynghrair Pencampwyr Merched UEFA, England’s WSL a NWSL America. Mae’n gynhyrchiad aml-blatfform gyda chynnwys wedi'i gynhyrchu ar gyfer Teledu, Cymdeithasol a Digidol Channel 4, fe gydweithiodd tîm Nimble â thîm chomisiynu Channel 4, Nawdd Channel 4, Coca Cola a Mediacom i greu'r raglen Newydd sbon hwn er mwyn ceisio tyfu ymwybyddiaeth a bwrw goleuni ar gêm y menywod.
Watch Us Rise
3 x 15 for BT, BT Sport & The FA
Cyfres BT Sport sy'n dilyn grŵp o ferched ifanc sy'n caru pêl-droed ond wedi profi rhai anawsterau mewn bywyd.
Cyfres BT Sport sy'n dilyn grŵp o ferched ifanc sy'n caru pêl-droed ond wedi profi rhai anawsterau mewn bywyd. Wedi’i gyflwyno gan y pêl-droediwr Chelcee Grimes, bydd y gyfres hon yn adrodd stori tair merch ifanc a'r brwydrau maen nhw wedi gorfod goresgyn wrth iddyn nhw ddilyn eu breuddwydion pêl-droed. Rydyn ni'n eu dilyn wrth iddyn nhw gychwyn ar eu taith BT Playmaker, cwrdd â'u harwyr pêl-droed The Lionesses a'u gwylio nhw'n tyfu o blant hunanymwybodol i ferched ifanc hyderus ar y cae ac oddi arno.
Red Bull Four 2 Score
Mae Red Bull Four 2 Score yn fformat pêl-droed 4-vs-4 newydd sbon sy'n llawn cyffro, lle mae goliau yn y funud gyntaf ac olaf yn werth dwbl. Rowndiau 10 munud, dim egwyl. Ymunodd Nimble Productions â Red Bull Netherlands ar gyfer recordiad Multicam byw o rowndiau terfynol cenedlaethol yr Iseldiroedd a chynhyrchu llu o glipiau ffurf fer ar gyfer dosbarthu newyddion teledu ac amrywiaeth o asedau cyfryngau cymdeithasol.
Swatch Nines
Mae Swatch Nines yn ddigwyddiad unigryw o fewn y byd chwaraeon gaeaf. Yn lle gornest draddodiadol, mae Sgiwyr ac Eirfyrddwyr yn reidio ac yn creu gyda'i gilydd. Mae'r maes chwarae yn gyfres ryfeddol o gicwyr, rheiliau a phowlen sglefrio wedi'u gosod 2600m uwchben lefel y môr.
Wedi’i dasgu gan bartner y digwyddiad Swatch a Red Bull Media House, cynhyrchodd Nimble gynnwys heb ei sgriptio a oedd yn cynnwys athletwyr allweddol a chreawdwr digwyddiadau, Nico Zacek.
The Grassroots Football Show
1 x 60 i BT & BT Sport
Ffurf fer ar gyfer BT Social a Digidol
Wedi'i gynhyrchu mewn partneriaeth â Cake (Havas) a Chymdeithasau Pêl-droed y Cenhedloedd cartref, mae Robbie Savage a Jules Breach yn cyflwyno'r sioe sy'n dathlu pêl-droed Grassroots o glybiau amatur i'r elitaidd, gan drafod pwysigrwydd timau o fewn cymunedau. Drwy Ffilmio yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru, roedd y sioe yn dangos cynnwys ddigynsail o’r gwersyll hyfforddi prif dîmau’r cenhedloedd cartref wrth iddynt baratoi ar gyfer tymor Haf Pêl-droed 2021 yn Ewrop.
Action Woman Heroes 2020
1 x 60’ BT Sport
Ffurf fer ar gyfer BT Social a Digidol
Ar ôl blwyddyn a orfododd pob un ohonom i fyfyrio, yn lle'r sioe wobrwyo fyw flynyddol, creodd Nimble raglen ddogfen ble gwelwyd enillwyr blaenorol Gwobrau Action Woman yn trafod eu llwyddiannau a’r bobl a'u hysbrydolwyd ar hyd y ffordd. Wedi'i gyflwyno gan Clare Balding a’r cyfansoddwr caneuon a chwaraewr Pêl-droed Chelcee Grimes, roedd yn cynnwys gwynebau adnabyddus megis Dina Asher Smith, capten Lioness Lloegr Steph Houghton a Hyrwyddwr Byd Beicio Mynydd Downhill, Rachel Atherton.
The Breakdown
8 x 4 Mins | Red Bull TV
Yn ogystal â chynnwys cymorth ychwanegol byr ar gyfer llwyfannau cymdeithasol
Mae 'The Breakdown’ yn gyfres o ffilmiau o safon uchel sy'n arddangos yr amrywiaeth o symudiadau dawnsio sydd yn repertoire criw Breakdance mwyaf blaenllaw yn y byd sef The Red Bull BC One All-Stars.
Dechreuodd Breaking, neu B-Boy, yn strydoedd Dinas Efrog Newydd yn gynnar yn y 1980au, ac ers hynny mae wedi codi i fod yn ffenomen ledled y byd gyda dawnswyr nawr yn cystadlu mewn digwyddiadau byw enfawr yn fyd-eang. Un o'r digwyddiadau mwyaf enwog yw BC One, sef cystadleuaeth flynyddol sy’n cael ei darlledu yn fyw ar Red Bull TV.
Fe wnaeth y gyfres o ffilmiau, pob un dan arweiniad dawnsiwr o ‘Red Bull BC One All Stars’, ddaadansoddi'r symudiadau, yr arddull, yr ystyr a'r teimlad ar gyfer cynulleidfa ieuenctid eang a byd-eang.
Mike Meets
6 x 12 MINS I RED BULL TV
Yn ogystal â chynnwys cymorth ychwanegol byr ar gyfer llwyfannau cymdeithasol
Chwe ffilm ddogfen ar chwech o yrwyr Rali mwya'r byd gyda Mike Chen, prif gyflwynydd Pencampwriaethau Rali'r Byd i Red Bull TV.
O'r gorau ym Mhrydain- Elfyn Evans ,i’r seren Gwyddelig Craig Breen, mae'r gyfres yn datgelu uchelfannau a’r iselfannau’r gyrwyr mewn taith newyddiadurol a luniwyd gyda chynhesrwydd ac hiwmor. Wedi'i ffilmio ar leoliad o amgylch Ewrop, mae gan y ffilmiau hynod greadigol hyn fynediad anhygoel i fywydau preifat y gyrwyr gan roi’r cyfle euraid ac unigryw i gynulleidfa teledu Red Bull weld sut fywydau sydd gan yrrwr Rali proffesiynol o'r radd flaenaf.
CREDYDAU ADLONIANT
Six Nations Sin Bin
Cyfres Adloniant Flynyddol i BBC Un Cymru a BBC iPlayer
Mae Six Nations Sin Bin yn sioe adloniant stiwdio blynyddol gyda wynebau cyfarwydd yn westeion ac yn cynnwys VTs digri er mwyn cychwyn pencampwriaeth y Chwe Gwlad mewn steil. Gabby Logan a Gareth Thomas sy'n cyflwyno'r sioe lle mae enwogion rygbi, digrifwyr a selebs bob wythnos yn rhan o’r raglen. Bellach yn ei bedwerydd gyfres, ar gyfer 2021, er gwaethaf y cyfnod clo, parhaodd Sin Bin i ddifyrru cynulleidfa BBC One Wales ac iPlayer gyda chynulleidfa rithiol, anghysbell a gwesteion byw gan gynnwys Ed Byrne, Sir Bryn Terfel, Gregg Wallace, Ore Oduba, Carol Voderman a Kiri Pritchard-Mclean, yn ogystal â llu o dalent rygbi rhyngwladol megis Shane Williams, Ryan Jones a David Campese. Roedd Sin Bin 2021 yn cynnwys ‘Showdown’, sydd mor adnabyddus erbyn hyn, lle mae pedwar tîm o enwogion yn cystadlu mewn cyfres o heriau rygbi er mwyn profi eu cryfder, eu cyflymder, eu sgiliau a’u dygnwch gyda dim ond un yn enill y gystadleuaeth ffyrnig.
The Clare Balding Show
Cyfres 12 x 60 i BT Sport, Dydd Iau 8yh
Sioe sgwrsio adloniadol lle mae newyddiadurwraig gwobrwyedig BAFTA, Clare Balding, yn siarad â'r enwau mwyaf yn y byd chwaraeon, megis Rio Ferdinand, Bernie Ecclestone, Frank Lampard, Johanna Konta a Harry Redknapp.
Wedi'i ffilmio o stiwdios BT Sport o flaen cynulleidfa fyw, mae Clare yn cyfuno newyddiaduraeth pryfoclyd a hwyliog a dyfeisiau adloniant a gynlluniwyd i roi cipolwg prin i wylwyr i fywydau ffigyrau chwaraeon gorau Prydain. Gyda fformat newydd ar gyfer 2017, gan gynnwys dylunio stiwdio newydd, graffeg a mwy o ffocws ar greu cynnwys ar gyfer llwyfannau llinellol a digidol BT.
Pen/Campwyr
8 x 30 for S4C
A brand new sports quiz show hosted by Jason Mohammad. A high-octane quiz where brains meets brawn as contestants answer sporting trivia questions to gain an advantage in physical gameplay against some of Wales’ biggest sporting legends including Rugby hero James Hook and Footballer Tash Harding. Graphic design by KPX Creative, Game Technology by Kinetic Pixel. Produced and Directed by Rhys Padarn.
WWE Clash at the Castle
1 x 30 BBC
Mae tri o sêr restlo, Seth Rollins, Bayley a Butch yn ymuno â Mark Andrews cyn un o ddigwyddiadau mwya’r byd restlo ers 30 mlynedd – Clash at the Castle. Yn edrych tuag at ddyfodol WWE, gofyn beth yw hi i fod yn ffan ac yn ateb y cwestiwn mawr – pam eu bod nhw’n caru restlo?
Wales: The Big Kick-Off
1 x 30 for BBC Wales & iPlayer
An exclusive BBC entertainment show celebrating the Welsh football team in the 2020 European Football Championships. Fronted by Gabby Logan and Wales legend Nathan Blake, the curtain raiser to BBC’s coverage gets the party started with special guests Elis James, Joe Ledley, The Alarm, Natasha Harding and Leroy Brito.
Cleientiaid
- Red Bull
- BBC
- BT Sport
- Channel 4
- Coca Cola
- BT
- Zwift
- EE
- FA
- VisionNine
- S4C
- Olympic Channel
- Discovery +
- TNT Sports
- World Skate
Cyswllt
Cysylltwch
The Sail Loft, Frazer Building, 126 Bute Street, Cardiff, CF10 5LE
AMDANOM NI
Ni yw Nimble Productions
Mae Nimble Productions yn gynhyrchwyr sydd wedi ennill sawl gwobr am greu cynnwys diwylliant chwaraeon gyda hanes o lwyddiant am 20 mlynedd. Mae Nimble wedi cydweithio â rhai o dalentau, darlledwyr a brandiau mwyaf blaenllaw'r byd.
Dylan Wyn Davies CYFARWYDDWR CREADIGOL
Yn Gyfarwyddwr Creadigol sydd wedi ennill llu o wobrau (RTS, Gold Cannes Lions, Broadcast Digital, Academi BAFTA Cymru), sefydlodd Dylan Nimble yn 2017 ac mae’n cynhyrchu cynnwys adloniant, cynnwys byw di-sgript ar gyfer Teledu, Cymdeithasol a Digidol.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, mae rhai o’i uchafbwyntiau’n cynnwys creu AFP mwya’r byd, GT Academy, with Sony and Nissan and now a major Hollywood movie Gran Turismo. Dylan created and led a raft of Channel 4 Paralympics entertainment and live properties plus created the British network sport-entrainment properties Six Nations Sin Bin with Gabby Logan and Gareth Thomas and The Clare Balding Show, taking both series to network BBC One and BBC Two.
Dylan has also been at the forefront in the innovation and progression of global action sports and culture broadcast, producing some of Red Bull’s largest international live properties, the world’s most accessible football tournament with the FA Disability Cup and creating the first ever World Skateboarding Tour, the qualifying series for the Olympic Games.
GARETH REES RHEOLWR GYFARWYDDWR
Mae Gareth wedi gweithio yn niwydiant teledu ers dros 20 mlynedd. Fel un o sylfaenwyr a Rheolwr Cyfarwyddwr Nimble Productions a Nimble Dragon, mae wedi sefydlu’r cwmni dros y blynyddoedd diwethaf fel llais allweddol ym myd creadigol Cymreig, gyda chysylltiadau cadarn â darlledwyr lleol a rhwydwaith, a sylfaen busnes cryf.
Yn 2007, roedd Gareth yn rhan o’r tîm a oedd yn gyfrifol am redeg y busnes Boomerang+PLC yng Nghaerdydd. Mae’n deall heriau rheoli a thyfu cwmni annibynnol ac arwain tîm creadigol, cryf.
KATY CARTWRIGHT PENNAETH CYNHYRCHU
Mae gan Katy brofiad helaeth o ugain mlynedd o reoli cynhyrchiadau amrywiol gan gynnwys rhai ffeithiol, adloniant, chwaraeon a drama. Cyn ymuno â Nimble Dragon roedd Katy yn rheolwr cynhyrchu yn Blink Films, a chyn hynny yn Boomerang, yn rhedeg nifer fawr o gynhyrchiadau llwyddiannus gan gynnwys 'Posh Pawn' ac 'Extreme Cake Makers' i Channel 4. Dechreuodd Katy ei gyrfa yn y BBC, yn gweithio ar amrywiaeth o raglenni a chyfresi, gan gynnwys 'DIY SOS': 'The Big Build' a 'Doctor Who Confidential'.
FLO KOEHLER UWCH GYNHYRCHYDD
Mae Flo yn Uwch Gynhyrchydd ystwyth a chreadigol, gyda llygaid arloesol ar bob prosiect.
Wedi dechrau ei yrfa gyda MTV, fe gynhyrchodd Flo amryw o fformatau, megis portreadau artistiaid ffurf hir, gwyliau cerddoriaeth byw, sioeau gwobrwyo a rhaglenni stiwdio hwyr y nos.
Roedd Flo yn rhan o dîm cynhyrchu byw Red Bull Media House am bron i ddegawd. Chwaraeodd ran allweddol wrth gyflwyno rhaglenni fel Cwpan y Byd UCI MTB, Freeride World Tour, Vans Park Series a Neymar Junior’s Five, i enwi ond ychydig.
Cyn Nimble, roedd Flo yn gweithio fel Pennaeth Cynhyrchu ar gyfer arbenigwyr ffrydio byw yn Amsterdam, NOMOBO. Yn ogystal ag arwain a datblygu'r tîm cynhyrchu, roedd yn gyfrifol am ychydig o'r cynyrchiadau mwyaf cymhleth y mae'r cwmni wedi'u cyflwyno hyd yma. Ymhlith y cleientiaid roedd Workday CCW, Salesforce Dream TX, IBM Think a Red Bull Uncontained.
ROB HARPER CYFARWYDDWR CYLLID
Dechreuodd Rob ei yrfa yn y sector archwilio a chyfrifeg lle cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig cyn ymuno â Channel 4 yn 2001.Ymunodd Rob â Channel 4 yn 2001.
Fel Cyfarwyddwr Cyllid 4 Rights, busnes masnachol Channel 4, am dros ddeng mlynedd bu Rob yn rheoli un o gronfeydd buddsoddi annibynnol rhaglenni mwyaf y DU, gan fuddsoddi yn rhai o raglenni a chyfresi mwyaf eiconig Channel 4, gan gynnwys 'Shackleton', 'Shameless', 'Green Wing', 'The Joe Simpson films', 'The Beckoning Silence' a 'Touching the Void'.
Yn 2011 fe wnaeth ddatblygu model ariannu unigryw ar gyfer y ffilm hynod lwyddiannus, 'The Inbetweeners Movie', a aeth ymlaen i fod yn un o ffilmiau comedi mwyaf llwyddiannus y DU.
Yn fwy diweddar mae Rob wedi canolbwyntio ar apwyntiadau Cyfarwyddwyr Cyllid mewn cwmnïau entrepreneuraidd/cychwynnol o fewn y diwydiannau creadigol. Mae'r rhain wedi cynnwys nifer o gwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm lle mae wedi sefydlu a rheoli adrannau cyllid ac wedi codi cyllid buddsoddi i gefnogi twf busnes.
GARETH THOMAS GYNHYRCHYDD
Mae Gareth wedi gweithio ar draws llawer o gynyrchiadau i Nimble. Cyn ymuno â Nimble, roedd Gareth yn aelod o Only Boys Aloud a ddaeth yn 3ydd ar Britain’s Got Talent a mi oedd yn gyflwynydd digidol ar gyfer rhaglenni Cân i Gymru ac Eisteddfod yr Urdd/Genedlaethol i S4C.
I Nimble, mae Gareth wedi gweithio ar Trysorau’r Teulu (S4C); Ffrindiau Ffôn ar Wyliau (S4C); The Wedding Dress Shop (BBC Wales); Six Nations Sin Bin (BBC Wales); Watch Us Rise (BT Sport); Para Adventures (BT Sport).